Ymweliad â Beddau Rhyfel y Gymanwlad Mai 2014

Roeddwn yn falch iawn o dderbyn gwahoddiad gan Gomisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad (The Commonwealth War Graves Commission -CWGC)  i ymweld â beddau Y  Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail Ryfel Byd. Yn ymwybodol iawn o ganmlwyddiant dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf a minnau a gradd mewn hanes, meddyliais fy mod yn gwybod llawer am waith  Comisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad ac am y ffordd yr aethant at eu gwaith yn ystod ac wedi’r gyflafan. Mor ddiwybod y bum! 

 

Wedi ymweld â meysydd rhyfel gogledd Ffrainc a Gwlad Belg a gyda Mynwentydd yn Normandy, Creta ac Israel roeddwn dan yr argraff mai dros y môr yr oedd rhan fwyaf o waith y CWGC. Eto , roeddwn yn anwybodus iawn. Ar wahân i Ffrainc, lle mae beddau a chofebau i 575,169 o wasanaethwyr a gwasanaethwragedd Prydeinig, mae’r  ail nifer o feddau a chofebau y mae’r CWGC yn gofalu amdanynt yma yn y Deyrnas Unedig. Mae cynifer â 305,698 o feddau unigol a chofebau ag enwau arnynt o dan ofal y CWGC yma sydd dros 100,000 yn fwy na nifer y beddau a chofebau dan ofal yng Ngwlad Belg. Honno yw’r drydedd wlad  y mae CWGC yn gwneud y mwyaf o waith gofal ynddi.

Yma yn etholaeth Aberconwy gofelir am 161 o feddau rhyfel gan y CWGC ac o’r rheiny mae 92 i wasanaethwyr a syrthiodd yn y Rhyfel Byd Cyntaf a
69 a syrthiodd yn yr Ail Ryfel Byd. Mae’r beddau a’r cofebau hyn ar wasgar ymysg 32 o fynwentydd er bod 105 o’r beddau yma yn y pedair mynwent yr ymwelais i â hwy  gyda Chris Hawes sy’n gweithio i’r CWGC yng Ngogledd Cymru, Swydd Caer a Swydd Gaerhirfryn.   

Prif Fynwent Pen y Gogarth

Y stop cyntaf ar fy nhaith oedd  Prif Fynwent Pen y Gogarth sydd a 36 o Feddau Rhyfel, 18 o’r Rhyfel Mawr ac 18 o’r Ail Ryfel Byd. Tra bod y rhelyw o’r beddau hyn ar gynllun traddodiadol sy’n gyfarwydd iawn i ni, nid dyma’r sefyllfa gyda phob un. Cafodd teuluoedd y gwasanaethwyr ddewis p’un ai i dderbyn cynllun carreg fedd a gynlluniwyd gan yr awdurdodau neu i wneud eu trefniadau eu hunain. Yn ddiddorol iawn, hyd yn oed lle dewisodd y teuluoedd eu trefniadau eu hunain, mae’r CWGC yn parhau i sicrhau fod enw a rheng unrhyw wasanaethwr yn ddealladwy ar feddau teuluoedd.

Roedd y cyntaf o’r cerrig beddau sydd mor gyfarwydd i ni wedi eu lleoli gyda’i gilydd mewn rhan wedi ei neilltuo o’r fynwent ac roeddynt ar garreg Portland draddodiadol. Roedd y tair bron yn galw am eu hadnewyddu - proses barhaus sy’n digwydd dramor ac yma yn y Deyrnas unedig. Yn ddiddorol  mae cerrig beddau yr Ail Ryfel Byd yn llawer mwy tebygol o gael eu hadnewyddu na rhai y Rhyfel Byd cyntaf.  Y rheswm dros hyn mae’n siŵr yw  bod cerrig Portland ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd yn cael eu cadw ar gyfer ail-adeiladu Llundain a rhoddwyd carreg salach i’r CWGC. Mae’r polisi yn eglur , os yw’r arwyddluniau, rheng, enw neu’r cyflwyniad wedi ei ddifrodi mewn unrhyw fodd yna fe fydd carreg newydd yn cael ei darparu.

  

I un fel fi o Ogledd Cymru, gyda chefndir teuluol yn chwareli llechi Blaenau Ffestiniog a Dyffryn Nantlle cefais fy syfrdanu o weld cynlluniau syml cerrig beddau o Lechen Gymreig. Enghraifft  goeth ar y Ben y Gogarth oedd i Un o Awyrlu  Canada gyda Deilen Fasarnen wedi ei cherfio’n syfrdanol ar y llechen.

 

  

Mae’n achos o falchder o ryw fath i ddweud na fu rhaid i’r CWGC, hyd y gŵyr Chris, adnewyddu carreg fedd o lechen. Byddai fy nhaid o Flaenau Ffestiniog, wedi bod yn falch iawn o hyn!

Mae dwy garreg fedd yn coffau bywydau dau go arbennig:
Major Charles Michael Anderson Cummins (m. 20 Mawrth 1944)
Ddwy flynedd cyn ei farwolaeth  cafodd anrhydedd am ei ddewrder, ac mae’n darllen fel darn o gomic amser rhyfel fy mhlentyndod.

“While in Command of a platoon manning the TA KALI Aerodrome Defence Posts he showed outstanding devotion to duty.  At about 19.30hrs on the 20th of March 1942 a Spitfire, one patrol bowzer and the ammunition van of No.126 Squadron RAF near Post TK14 were set on fire by enemy bombs.  The glare lit up the aerodrome and served as a beacon for further attacks.  Immediately the first lull in the bombing came Lt Cummins got his P Sgt and went to put the fire out.  He collected an RAF Sgt on the way and together the three extinguished the fires in one and a half hours by heaping earth on the flames.  The task was made hazardous by ammunition exploding in the van but the work proceeded without regard for their personal safety.  The air officer commanding complimented them on their work at the time.  Lt Cummins also showed untiring zeal in visiting constantly his posts on all the days of the attacks on the aerodrome.  His coolness, steadiness and cheerfulness helped to maintain the morale of his men”

Captain Gwyn Lloyd James (m. 23 Medi 1940)
Derbyniodd Gwyn ei addysg yn Ysgol John Bright Llandudno a chafodd Radd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf gan Brifysgol Cymru Bangor cyn ymuno â’r fyddin yn rheng yr ail lefftenant ar ei ben-blwydd yn 20 oed. Yn yr Artilari Frenhinol arbenigai mewn technoleg bom ac roedd yn uwch-swyddog balistig i’r ‘Experimental Establishment’ am dair blynedd  cyn i’r Ail Ryfel Byd ddechrau. Lladdwyd Captain James, yn 36 oed, ym Medi 1940 tra’n “cyflawni gwaith arbenigol o bwys mawr”. Claddwyd ef gyda’r holl anrhydedd filitaraidd a chludwyd ei gorff ar gludwr gynnau a baner yr Undeb drosto. Pan fu farw roedd yn byw yng Nghraig y Don gyda’i wraig, Olive a’u dau o blant.   
 
Mynwent Llanrhos
Gan adael Mynwent Pen y Gogarth ar fore heulog braf aethom tua mynwent Llanrhos lle y gofelir am 25 bedd arall. Yn Llanrhos mae 19 yn dyddio nôl i’r Rhyfel Byd Cyntaf a chwech pellach o’r Ail Ryfel Byd. Eto mae’r beddau yn gymysgedd o garreg Portland a Llechen Gymreig ac yn feddau teuluol a’r CWGC yn gofalu am yr arysgrifen. 

 

Moment deimladol iawn oedd canfod bedd taclus gweddw ryfel oedd yn crybwyll ei gŵr a fu farw yn gwasanaethu. Er  y parodrwydd i ofalu am fedd preifat fel hwn yn ychwanegol at y rhai traddodiadol, nid yw y CWGC yn gofalu am gerrig beddau fel hyn, er gwaethaf enw a rheng yr unigolyn ar y garreg, nid eu bedd  hwy yn uniongyrchol  ydyw.

 
Mynwent Dwygyfylchi

Ein stop nesaf oedd Mynwent Dwygyfylchi ac roedd yn syfrdanol yn heulwen y gwanwyn. Dyma le tawel a gogoneddus. Roedd 23 bedd arall yno i gyd, 13 o’r Rhyfel Byd Cyntaf a 10 o’r Ail Ryfel Byd. Un bedd hynod oedd un  Lt Col. Edmond Williams St Vincent Ryan a fu farw o’i anafiadau yn 59 mlwydd oed Awst 1919. Swyddog Meddygol gyda gyrfa hir o wasanaeth, hefyd fe wasanaethodd gydag arbenigrwydd yn ystod Rhyfel y Boer. Y cwestiwn amlwg gen i oedd y dyddiad y bu farw sef yr 24ain o Awst 1919. Er iddo oresgyn y rhyfel bu farw o’i anafiadau  naw mis yn ddiweddarach. 

 

Arweiniodd hyn at drafodaeth am bwy oedd yn anafiedig gan ryfel ac fel gyda phopeth mae’n debyg fod toriad pendant ac na allech  bellach gael eich cyfri yn anafiedig gan ryfel. I’r rhai a wasanaethodd yn y Rhyfel Byd Cyntaf  ni fyddid yn eu hystyried fel anafiedig gan y gyflafan honno os buont farw  oherwydd anafiadau ar ôl y 31ain o Awst 1921, tra yn yr Ail Ryfel Byd  gosodwyd y dyddiad ar y 31ain o Ragfyr 1947.  Tybed a gafodd hyn effaith ar y pensiynau a roddid i’w gweddwon os bu farw'r unigolyn oherwydd eu hanafiadau?  
 
Mynwent St. Agnes, Conwy
Ein stop olaf oedd Mynwent St. Agnes, Conwy lle'r oedd un ar bymtheg arall wedi eu claddu.  Yn anffodus roedd cymaint ag wyth o’r beddau hyn  ar goll. Ie, ar goll. Cefais fy synnu gan hyn, ac at y syniad fod bechgyn ifainc oedd wedi gwasanaethu eu gwlad ac wedi eu claddu yn eu mynwent leol a bod man eu claddu wedi mynd yn angof. Gan fod y CWGC yn gwybod eu bod wedi eu claddu yma ond yn methu dod o hyd i’r fangre yn union, gosodwyd carreg  goffa  o Garreg Portland i goffáu’r wyth mewn cornel dawel o’r fynwent.   

 

 

Wrth gerdded o amgylch i weld yr wyth bedd arall cefais fy synnu o weld bedd D.C Fryer a fu farw o’i anafiadau ar y 24ain o Orffennaf 1944 yn ugain oed. Hynodrwydd y peth oedd bod ei garreg fedd ef yn nodi marwolaeth ei frawd hefyd; Arthur Fryer a gafodd ei ladd tra’n gwasanaethu yn 1940, hefyd yn ugain oed. Dyna golled ddirfawr i’r rhieni- dau fab, a phedair blynedd rhyngddynt ac yn marw mor ifanc. Dyna drychineb yn wir.

 

At ei gilydd tristawyd fi ond cefais fy symbylu hefyd gan waith y CWGC yma yn Aberconwy. Rydym yn barod i gofio'r rhai a syrthiodd yn y ddau ryfel ac rwyf wedi talu a byddaf yn talu eto i fy mhlant gael ymweld â meysydd y rhyfel yng Ngwlad Belg ac yn Ffrainc fel rhan o’u cwrs hanes, ond rydym yn tueddu i esgeuluso'r hanes hwn yn lleol, yr hanes  sydd o flaen ein llygaid ac o fewn ein cymunedau ni ein hunain. 

 O ganlyniad i’r bore addysgiadol a dreuliwyd gyda’r CWGC byddaf yn ysgrifennu at yr holl Ysgolion Cynradd o fewn y cymunedau sydd â beddau rhyfel o fewn eu terfynau a hefyd at y cynghorau tref a chymunedol  yr effeithir arnynt.
Fel rhan o’r coffáu sydd i ddod am ddechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf byddai’n addas ac yn briodol i gofio a pharchu'r rhai a syrthiodd yn y Ddau Ryfel a phob gwrthdrawiad arall sydd wedi eu claddu o fewn i fynwentydd lleol.