Wyn Roberts MP

Ganed Ieuan Wyn Pritchard Roberts (Wyn) yn Llansadwrn, Ynys Môn yn  1930.  Gweinidog oedd ei dad ac roedd y teulu’n byw yn y Tŷ Capel. Aeth i Ysgol Sirol Biwmares cyn ennill ysgoloriaeth i Ysgol Harrow yn Llundain. Pan gyrhaeddodd yno yn 1944, Cymraeg oedd ei iaith gyntaf ac er bod ei Saesneg ysgrifenedig yn wych, ar y dechrau roedd yn betrus iawn wrth ei defnyddio ar lafar.

 

Gwnaeth ei wasanaeth milwrol yn y Gwasanaeth Cudd a threulio cyfnod yn Vienna. Yno roedd yn rhan o gynllwyn i glustfeinio ar gebl ffôn oedd wedi’i gysylltu i bencadlys Rwsia yn y ddinas. Yn y cyfnod hwn roedd Vienna’n ganolbwynt ar gyfer pob math o weithgareddau ysbio ac roedd Wyn Roberts yn grediniol fod rhywun, Kim Philby o bosibl, wedi ceisio’i berswadio i newid ochr. Yn dilyn y cyfnod hwn, enillodd ysgoloriaeth i Brifysgol Rhydychen i astudio Hanes.  

Ar ôl dwy flynedd yn is-olygydd gyda’r Liverpool Daily Post & Echo, ymunodd yn 1954 ag adran newyddion y BBC. Yn 1960, symudodd i TWW gan ddod yn rheolwr y cwmni yng Nghymru yn 1964. Yn 1966 cafodd ei urddo’n aelod o Orsedd y Beirdd a defnyddiodd ei safle fel Llywydd Eisteddfod Caergybi  i bwyso am wasanaeth teledu lliw i Gymru.

 

Yn etholiad cyffredinol 1970, cipiodd Wyn Roberts sedd Conwy oddi ar Lafur a chadwodd y sedd i’r Ceidwadwyr hyd ei ymddeoliad yn 1997, 27 mlynedd yn ddiweddarach. Yn San Steffan, canolbwyntiodd Wyn Roberts ar faterion Cymreig.

 

Dechreuodd ei yrfa yn ysgrifennydd seneddol preifat i Peter Thomas yn Swyddfa Cymru.  Yn 1974, daeth yn llefarydd dros Gymru ar y fainc flaen gan weithio ochr yn ochr â Nicholas Edwards.

Pan gollodd Llafur ei mwyafrif yng nghyfnod James Callaghan, dechreuodd y Senedd roi mwy o sylw i’r posibilrwydd o ddatganoli grym i Gymru a’r Alban. Daeth Llafur yn gefnogol i’r syniad yn dilyn y cynnydd ym mhoblogrwydd yr SNP. Ond ni welai Wyn Roberts fod galw yng Nghymru am ddatganoli. Wrth i ddyddiad y refferendwm ar ddydd Gŵyl Dewi 1979 agosáu, rhybuddiodd y byddai datganoli’n golygu llai o arian gan y llywodraeth, trethi uwch a “haen arall” o fiwrocratiaeth.

 

Trechwyd cynlluniau Llafur ac arweiniodd yr hyn a ddigwyddodd yn yr Alban at basio pleidlais o ddiffyg hyder yn y Llywodraeth. Mrs Thatcher enillodd yr etholiad cyffredinol a ddilynodd hynny a phenodwyd Wyn  Roberts yn is-weinidog yn Swyddfa Cymru.

 

Ar y pryd roedd yr ymgyrch dros sefydlu sianel deledu Gymraeg ar ei hanterth. Roedd pobl yn gwrthod talu am eu trwyddedau teledu a bygythiodd Gwynfor Evans, cyn AS Plaid Cymru Caerfyrddin, fynd ar ympryd. Yn rhannol o ganlyniad i ymyrraeth Wyn Roberts, gwnaeth ei lywodraeth dro pedol a lansiwyd S4C yn 1982.

 

Wedi etholiad 1987, penodwyd Peter Walker yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru a pharhaodd Wyn Roberts i fod yn is-weinidog.

 

Cafodd ei urddo’n farchog gan Mrs Thatcher yn 1990. Er iddo gefnogi ymgyrch Michael Heseltine i fod yn arweinydd, cadwodd John Major ef yn Swyddfa Cymru ac ym Mehefin 1991 fe’i gwnaeth yn aelod o’r Cyfrin Gyngor.

 

Yn Ionawr 1992, cyfarfu Wyn Roberts â Chymdeithas yr Iaith Gymraeg – y cyfarfod cyntaf ers saith mlynedd – wedi iddynt roi’r gorau dros dro i weithredu’n uniongyrchol. Yn fuan wedi i John Major ennill yr etholiad cyffredinol dechreuodd Wyn Roberts ar y gwaith o lywio Deddf Iaith 1993 i’r llyfr statud. Dywedodd ei fod yn ‘falch iawn’ o'r ddeddfwriaeth honno, a roddodd statws newydd i'r Gymraeg ac a sefydlodd Fwrdd yr Iaith. 

 

Gadawodd y llywodraeth yn 1994 a ni safodd yn etholiad cyffredinol 1997.

 

Ar 1 Hydref 1997, fe’i dyrchafwyd i Dŷ’r Arglwyddi a’i deitl yno oedd yr Arglwydd Roberts o Gonwy, o Dalyfan, Gwynedd. Parhaodd i fod yn llefarydd y Ceidwadwyr ar Gymru yn yr ail siambr hyd 2007

 

Yn 2006 cyhoeddodd ei hunangofiant- Right from the Start sy’n ymwneud â chyfnod diddorol yn hanes gwleidyddol Cymru o’r 1970au i’r 1990au. Disgrifiodd yr Athro Richard Wyn Jones yr hunangofiant hwn fel un o’r rhai gorau i gael ei gyhoeddi gan wleidydd Cymreig.

 

Roedd Wyn Roberts bob amser yn amddiffyn buddiannau Cymru yn San Steffan. O’r herwydd, caiff ei weld yn rhagflaenydd i’r Blaid Geidwadol Gymreig fodern sy’n parhau i geisio cael gwared ar y syniad ohoni fel y blaid Seisnig yng Nghymru.

 

Ar y cyfan roedd yn gwrthwynebu datganoli oherwydd y byddai’n golygu bod “Cymru’n colli dylanwad a grym yn San Steffan ac o ganlyniad yn colli adnoddau”. Fodd bynnag, newidiodd ei feddwl i raddau ar ôl cynnal ymgynghoriad ar y mater ar ran David Cameron.

 

Ymysg ei lwyddiannau mwyaf roedd Deddf y Gymraeg, yr A55, ac Ysbyty Gwynedd. Yn ei anerchiad cyntaf yn y Senedd yn 1970 fe wnaeth ddau addewid pendant sef sicrhau ffordd ddeuol rhwng Caergybi a Chaer ac ysbyty newydd i wasanaethu gogledd orllewin Cymru. Yn rhyfeddol, llwyddodd i wireddu’r ddau addewid!

 

Bu farw yn ei gartref yn Rowen yn 2013. Gadawodd ar ei ôl wraig, Enid (Williams) a briododd yn 1956 a dau fab, Huw a Geraint.  Bu farw’r mab arall, Rhys yn 2004.