William Geraint Oliver Morgan (Geraint) – AS Dinbych

Ganed William Geraint Oliver Morgan yn ardal Llandeilo. Symudodd y teulu i Lathbury ger Newport Pagnell yn Swydd Buckingham ac fe’i haddysgwyd yn Ysgol Bedford, Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth a Neuadd y Drindod, Caergrawnt. Roedd yn ieithydd medrus ac yn ddwyieithog yn y Gymraeg a’r Saesneg. Dysgodd Ffrangeg yn yr ysgol, cyn mynd ymlaen yn ddiweddarach i feistroli Almaeneg ac Eidaleg.

Ymunodd a Chatrawd Frenhinol Swydd Suffolk ar ddechrau’r Ail Ryfel Byd a gwasanaethodd yn y Llynges Frenhinol. Yn ystod ymgyrch D-Day, glaniodd ar Gold Beach ac erbyn diwedd y rhyfel roedd wedi’i ddyrchafu’n Uwchgapten. Daeth yn fargyfreithiwr yn 1947, ac yn gofiadur yn 1971.

Safodd yn aflwyddiannus dros y Ceidwadwyr ym Meirionnydd yn 1951, a cholli hefyd fu ei hanes yn Huyton  yn 1955.  Ond yn 1959, fe’i hetholwyd yn Aelod Seneddol dros Ddinbych; sedd a gadwodd tan iddi gael ei diddymu yn 1983 yn dilyn newid ffiniau etholaethau.

Roedd etholaeth Dinbych yn eang iawn ac yn cynnwys Dinbych a Rhuthun, Abergele a Pensarn, Bae Colwyn, Llangollen, Llanrwst, Llansilin, Llanelwy, Uwch Aled a rhannau o’r Waun a’r rhannau o Glan Conwy nad oeddent yn Sir Gaernarfon. Roedd felly’n AS dros rannau o Ddyffryn Conwy. 

Roedd yn nodedig am beidio â siarad yn aml iawn yn Nhŷ’r Cyffredin. Pan fu farw, dyma ysgrifennwyd amdano yn yr Independent:

 

"Although not the most frequent of speakers in the Commons, his commitment to the North Wales constituency was unswerving - and totally fair to those he represented. He answered letters from Welsh-speakers in Welsh - and in his own meticulous handwriting. There were triumphs too small to register on the Westminster scale which were of importance to his constituents. Many householders living near the A55 - a road designated "a highway of opportunity" - thanked him for the compensation they received when the road was upgraded."

 

Gwan iawn oedd ei bresenoldeb hefyd. Byddai’n mynd i Dŷ’r Cyffredin i bleidleisio ac i fynychu dadleuon yr Uwch Bwyllgor Cymreig. Rhwng 1965 ac 1973 ni ofynnodd yr un cwestiwn llafar, ac yn ôl y sôn am flynyddoedd lawer gwrthodai roi ei rif ffôn yn ystod y dydd i chwipiaid ei blaid. Fodd bynnag, gweithiai’n galed dros ei etholaeth a chymerai ddiddordeb byw mewn materion amaethyddol. Byddai’n cynnal cymorthfeydd rheolaidd, fel arfer yn neuadd y dref yn Ninbych.

Câi ei weld yn aml  yn y martiau lleol, a hyd yn oed yn pan oedd Guto Bebb yn ymgyrchu yn etholaeth newydd Aberconwy yn 2007-10 ac yn ymweld â mart Llanrwst, byddai pobl yn gofyn a fyddai’n mynychu’r mart mor ffyddlon â Geraint Morgan.  Y dyddiau hyn fyddai swyddfa’r chwipiaid fyth yn caniatáu’r fath beth! Ond ym marn llawer, mae presenoldeb lleol yn bwysicach na siarad yn rheolaidd yn San Steffan a dyna mae’n debyg oedd cyfrinach llwyddiant  Geraint Morgan yn ei etholaeth. 

Nid oedd Geraint Morgan bob amser yn gwrando ar y chwipiaid. Yn dilyn ei ethol, gwrthododd gefnogi ei blaid yn achos Helynt Profumo.  Yn 1972, pleidleisodd yn erbyn ymuno â’r Farchnad Gyffredin gan fynd yn groes i bolisi’r Blaid Geidwadol ar y pryd, a’r Prif Weinidog, Edward Heath.

Ef oedd Cadeirydd y Blaid Seneddol Gymreig yn 1965-6, a gwasanaethodd hefyd ar y Pwyllgor Dethol Cymreig. Roedd yn aelod o Bwyllgor yr Arglwydd Ganghellor (Pwyllgor Payne) ar Adfeddiannu Dyledion Dyfarniad, 1965-9, ac yn aelod o bwyllgor Arwisgo Tywysog Cymru, 1968-9. Roedd yn ffyrnig ei elyniaeth i CND ac yn cefnogi dienyddio. Derbyniwyd ef i'r Orsedd ym 1969. 

 Yn etholiad cyffredinol 1983, ceisiodd gael ei ddewis yn ymgeisydd Ceidwadol dros sedd newydd Gogledd-Orllewin Clwyd oedd yn cynnwys rhannu helaeth o’i hen etholaeth ynghyd â rhannau o etholaeth Fflint. Ond cafodd ei hun yng nghanol brwydr ffyrnig rhwng Syr Anthony Meyer a Miss Beata Brookes, Aelod Seneddol Ewropeaidd Gogledd Cymru, ac fe’i gwrthodwyd. Ar y pryd, awgrym yr adroddiadau oedd bod hyn er gwaethaf cefnogaeth sylweddol iddo ymhlith y sawl oedd yn bresennol yn y cyfarfod dewis. 

Yn etholiad cyffredinol 1983, cefnogodd Geraint Morgan ymgeisydd Plaid Cymru, ac yn 1984 ymddiswyddodd o’r Blaid Geidwadol ac ymuno â’r Rhyddfrydwyr. Yn Etholiadau Ewrop 1989, anogodd Geraint Morgan etholwyr i gefnogi ymgeisydd Plaid Cymru, Dafydd Elis Thomas, ond ni ymunodd erioed yn ffurfiol â’r blaid honno.

Ar ôl gadael y Senedd parhaodd Geraint Morgan i fod yn Gofiadur Llys Sirol. Priododd â Joan Maxwell yn 1957 a chawsant ddau fab a dwy ferch. Bu farw yn   Barrow in Furness yn 1995.