Welsh Government prioritises South over North Wales in latest local government budget. // Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu De Cymru dros y Gogledd yn y gyllideb ddiweddaraf ar gyfer llywodraeth leol.

Earlier this week Welsh Government announced its provisional funding settlement for local authorities throughout Wales.  The majority of local authority funding comes from Welsh Government, with a much smaller proportion coming from Council Tax.  For example, Welsh Government funding made up 72% of Conwy County Borough Council’s budget this year, with 27% coming from Council Tax receipts and the remaining 1% from other sources (Welsh Government: £153,615,000, Council Tax payers: £58,447,000, other sources: £2,609,000).  Even a small reduction to the Welsh Government subsidy can have a big impact.

The funding settlement for 2019/20 will see local government funding cut by an average of 0.3%, whilst funding for Conwy council will be cut by 1% (just over £1.5m) - at the same time Cardiff, Merthyr Tydfil, Rhondda Cynon Taf, Neath Port Talbot, Newport, Torfaen and Swansea will see their funding boosted or protected in cash terms. 

The Welsh Local Government Association acts as a link between local authorities and Welsh Government.  Responding to Welsh Government’s provisional settlement, the WLGA’s Deputy Leader, Cllr. Aaron Shotton (Flintshire) said:

“Today’s Provisional Settlement is grossly inadequate for the funding needs of local councils. The councils in North Wales will be particularly badly hit under this planned budget with three councils - Conwy, Flintshire and Ynys Mon - at the foot of the annual funding ‘league table’. All councils are again expected to find big cuts in their budgets to balance their books next year.

“At some point soon, one or more councils might have to admit that they are no longer able to legally balance their budget, without compromising the quality and safety of local services, under such intense financial pressure.

“Council leaders have been warning about the deepening impacts of austerity for several years.

“The Welsh Local Government Association (WLGA) has made a well-argued and evidenced case for improved funding to protect schools, social care for the elderly, environmental, transport, library and other services. Welsh Government has failed to match its rhetoric of support with its budget. We welcome the announced increase in funding for the NHS in North Wales.

“Welsh Government needs to re-balance its budget to invest in the local community services that Councils provide alongside the NHS. The taxpayer could be faced with larger than ever Council Tax rises next year because Welsh Government is no longer funding councils to the level of proven need.

“We would call on Assembly Members from across the region, from all parties, to urge Welsh Government to undertake an immediate review of the support given to Council services within this budget.”

It’s disappointing that half of the local authorities in South Wales will avoid cuts to their Welsh Government funding at the expense of authorities throughout North and Mid Wales.  Even more disappointing is that six of the nine Welsh councils controlled by the Labour Party have been spared cuts, whilst authorities led by Plaid Cymru, Independent and Conservative councillors appear to be disproportionately bearing the brunt of budget reductions.

 

Ddechrau’r wythnos, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei setliad cyllid dros dro ar gyfer awdurdodau lleol ledled Cymru. Daw’r rhan fwyaf o'r cyllid y bydd awdurdodau lleol yn ei gael gan Lywodraeth Cymru gyda chyfran lai o lawer yn dod o’r Dreth Gyngor. Er enghraifft, roedd cyllid Llywodraeth Cymru yn cyfrif am 72% o gyllideb Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy eleni, gyda 27% yn dod o dderbynebau’r Dreth Gyngor a’r 1% sy’n weddill yn dod o ffynonellau eraill (Llywodraeth Cymru: £153,615,000, Talwyr y Dreth Gyngor: £58,447,000, ffynonellau eraill: £2,609,000). Gall hyd yn oed gostyngiad bach yng nghymhorthdal Llywodraeth Cymru gael effaith fawr.

Bydd y setliad cyllid ar gyfer 2019/20 yn torri faint o gyllid y bydd llywodraeth leol yn ei gael 0.3% ar gyfartaledd, tra bydd y cyllid ar gyfer Cyngor Conwy yn cael ei dorri 1% (ychydig dros £1.5m) - ond ar yr un pryd, bydd cyllid Caerdydd, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf, Castell-nedd Port Talbot, Casnewydd, Torfaen ac Abertawe yn cael ei hybu neu ei ddiogelu mewn termau ariannol.  

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yn gweithredu fel dolen rhwng awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru. Mewn ymateb i setliad dros dro Llywodraeth Cymru, dywedodd Dirprwy Arweinydd CLlLC, y Cynghorydd  Aaron Shotton (Sir y Fflint):

“Mae’r setliad dros dro heddiw ymhell o fod yn ddigonol ar gyfer anghenion cyllid cynghorau lleol. Bydd cynghorau Gogledd Cymru yn cael eu taro’n arbennig o galed gan y gyllideb arfaethedig yma gyda thri awdurdod – Conwy, Sir y Fflint ac Ynys Môn – ar waelod y domen yn nhermau cyllido blynyddol. Mae yna ddisgwyliad ar gynghorau unwaith eto i ganfod toriadau enfawr i gydbwyso eu cyllidebau am y flwyddyn nesaf.

“Bydd yna bwynt yn dod yn fuan ble y bydd yn rhaid i un neu fwy o’n cynghorau ni gyfaddef nad ydyn nhw mewn sefyllfa i allu cydbwyso eu cyllidebau yn ôl gofynion statudol, heb gyfaddawdu ar ansawdd a diogelwch gwasanaethau lleol, o dan straen ariannol mor ddwys.”

“Mae arweinwyr cynghorau Cymru wedi bod yn rhybuddio ers nifer o flynyddoedd am effeithiau cynyddol y cynni ariannol.”

“Mae CLlLC wedi bod yn dadlau yn resymol ac yn seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer gwella cyllid i amddiffyn ysgolion, gofal cymdeithasol i’r henoed, ynghyd a gwasanaethau amgylcheddol, trafnidiaeth, llyfrgelloedd a llawer mwy. Mae Llywodraeth Cymru wedi methu i gyfateb ei rethreg o gefnogaeth gyda’r gyllideb yma. Rydyn ni’n croesawu y cynnydd mewn cyllid ar gyfer y GIG yng Ngogledd Cymru.”

“Mae angen i Lywodraeth Cymru ail-ystyried ei gyllideb er mwyn buddsoddi yn y gwasanaethau cymunedol lleol y mae cynghorau yn eu darparu ochr yn ochr â’r GIG. Gall trethdalwyr fod yn wynebu codiadau mwy nag erioed yn y Dreth Cyngor y flwyddyn nesaf gan nad ydi cynghorau bellach yn cyllido cynghorau i’r lefel sydd ei angen.”

“Byddwn ni yn galw ar Aelodau Cynulliad ar draws y rhanbarth, o bob plaid, i bwyso ar Lywodraeth Cymru i adolygu ar unwaith y gefnogaeth sy’n cael ei roi i gynghorau o fewn y gyllideb yma.”

Mae’n siomedig y bydd hanner yr awdurdodau lleol yn Ne Cymru yn osgoi toriadau i’w cyllid gan Lywodraeth Cymru ar draul awdurdodau ledled Gogledd a Chanolbarth Cymru. Mae’n fwy siomedig byth nad yw’r chwech allan o’r naw cyngor yng Nghymru sy'n cael eu rheoli gan y Blaid Lafur wedi wynebu toriadau o gwbl, tra bo’r awdurdodau sy’n cael eu harwain gan gynghorwyr Plaid Cymru, y Ceidwadwyr a chynghorwyr Annibynnol fel pe baent yn dwyn baich y gostyngiadau hyn yn y gyllideb mewn modd anghyfartal.