Weekly News 29ain Mai 2019

Rali Ffermwyr Ifanc

Roeddwn i’n ddigon ffodus i fynd i Rali Ffermwyr Ifanc Eryri fore dydd Sadwrn i fod yn feirniad ar gyfer y gystadleuaeth ‘Cyfraniad i'r gymuned’ ac rydw i’n falch iawn fy mod i wedi mynd.  Yn Nhai Hirion, Padog, oedd y Rali’n cael ei chynnal eleni ac roedd toreth o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal mewn tair sied fawr ar y fferm, a oedd yn fwrlwm o bobl hen ac ifanc o fore gwyn tan nos.  Roedd y gystadleuaeth rhwng y gwahanol glybiau yn amlwg ond yn gyfeillgar, a does dim amheuaeth bod y gwaith a oedd yn cael ei gyflwyno ar y diwrnod yn adlewyrchu ymdrech enfawr ar ran yr holl aelodau oedd yno.

Roedd y gystadleuaeth ‘cyfraniad i’r gymuned’ yn gyfle i’r clybiau amrywiol ddangos eu cyfraniad i’w cymunedau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ac roeddwn i’n llawn edmygedd o raddfa ac amrywiaeth y gwaith cymunedol roedd y clybiau’n ei wneud.  P’un ai a ydych chi’n elusen leol, yn neuadd bentref neu’n gartref i'r henoed, mae’n debyg iawn bod y Ffermwyr Ifanc wedi codi arian ar eich cyfer, wedi’ch diddanu neu wedi gwneud gwaith gwirfoddol ar eich rhan.  Roedd yn gystadleuaeth wych i ddangos y gwaith mae’r clybiau hyn yn ei wneud o wythnos i wythnos ac yn tynnu sylw at y ffaith fod clybiau, er bod eu gwreiddiau yn ddwfn yn y gymuned amaethyddol, yn gallu cyfrannu at eu cymuned yn ehangach hefyd.

Yn olaf, alla i ddim peidio â chydnabod yr aelodau ‘hŷn’ o Badog, Ysbyty Ifan, Penmachno, Nebo a Chapel Garmon a roddodd o’u hamser er mwyn cefnogi’r digwyddiad, p’un ai a oeddent yn stiwardiaid, yn swyddogion parcio neu’n gwneud bwyd a phaneidiau.  Roedd yn amlwg yn ddiwrnod i bawb sy’n eu hystyried eu hunain yn Ifanc, p’un ai a ydyn nhw’n wyth mis neu’n wyth deg oed!

 

Ymddiswyddiad Mrs May

Roedd yn ddrwg gen i glywed am benderfyniad y Prif Weinidog i ymddiswyddo ddydd Gwener diwethaf, ond doeddwn i ddim wedi fy synnu.  Yn ei barn hi ei hun, mae hi wedi methu cyflawni ei haddewid, sef gadael yr UE yn drefnus.  Rwy’n credu bod hynny’n amlwg.  Fodd bynnag, nodaf nad ei hymdrechion a’i dycnwch oedd y rheswm am ei methiant.  Pe bai pob un ohonom yn rhoi’r un oriau ac ymdrech i wneud ein gwaith, rwy’n amau y byddai lefelau cynhyrchiant yn y DU yn gwella’n sylweddol.  Ond mae gwleidyddiaeth yn faes hyll, lle rydych yn cael eich mesur ar sail eich llwyddiannau, ac fel Prif Weinidog yn ystod y tair blynedd ers y refferendwm ar yr UE, ni lwyddodd Theresa May i gyflawni nifer o'r materion a oedd yn bwysig iddi o ganlyniad i gymhlethdod Brexit, a fu’n sugno’r holl amser y byddai wedi gallu ei dreulio fel arall yn ymwneud â busnes a mentrau eraill y Llywodraeth.

Nawr, rydym yn wynebu pleidlais am arweinydd arall, a'r sawl a fydd yn perswadio ASau Ceidwadol a 120,000 aelod y Blaid Geidwadol i bleidleisio drosto fydd ein Prif Weinidog nesaf.  Y prif beth rwyf am ei ddweud wrth yr holl ddarpar ymgeiswyr yw y dylent ystyried yn ofalus bod angen iddynt ennill pleidleisiau 120,000 o bobl, ond bod angen iddynt Lywodraethu ar ran 62m o bobl hefyd.  Yn fy marn i, dydyn ni ddim yn chwilio am rywun sy’n apelio atom mewn modd pleidiol, ond yn hytrach arweinydd sy’n fodlon siarad a gweithio ar ran pob un ohonom.  Alla i ddim ond gobeithio y bydd y fath arweinyddiaeth yn dod i’r amlwg yn ystod y chwe wythnos nesaf.