Weekly News 12fed Mehefin 2019

D-Day

 

Yr wythnos ddiwethaf doedd dim posib agor papur newydd na gwylio'r newyddion heb weld bod 75 mlynedd wedi mynd heibio ers D-Day, ac roedd hynny’n briodol iawn.  Gan gofio’r hanner can mlwyddiant yn dda, roedd yn deimladwy gweld llawer llai o gyn-filwyr yn cymryd rhan yn y digwyddiadau y tro yma.  Byddai person ifanc 18 oed yn 1944 yn 93 oed heddiw ac, o’r herwydd, prin iawn yw’r rhai a wasanaethodd ar D-Day.  Dylem eu gwerthfawrogi hwy a’u hatgofion tra rydym yn gallu.

Roeddwn i’n eithriadol falch o'r ffordd y gwnaeth Llandudno dalu teyrnged gyda dau wasanaeth wrth y Senotaff.  Rwy’n ymwybodol o ba mor dda mae Llandudno’n nodi Sul y Cofio ac roedd yn hyfryd gweld y dref yn talu teyrnged ddydd Iau a dydd Sadwrn yr wythnos ddiwethaf, gyda’r achlysur cofio cyntaf wedi’i drefnu gan y Cyn-filwyr Dall a’r ail gan y Lleng Brydeinig.  Roeddwn i’n hynod ddiolchgar i’r Lleng Brydeinig am drefnu’r achlysur cofio fore Sadwrn gan fy mod i yn Llundain ddydd Iau, gan golli digwyddiad y Cyn-filwyr Dall oherwydd hynny.  Roedd presenoldeb da yn y ddau ddigwyddiad, roeddent wedi’u trefnu’n dda ac roeddent yn achlysuron hynod briodol i gofio’r rhai a wasanaethodd mor anrhydeddus ar D-Day ac yn ystod Brwydr Normandi.

 

Ras yr Arweinyddiaeth

 

Ddydd Gwener, camodd Theresa May o’r neilltu fel arweinydd y Blaid Geidwadol.  Er ei bod dal yn Brif Weinidog nes caiff ei holynydd llwyddiannus ei ethol, mae’r ras i fod yn arweinydd newydd y Blaid Geidwadol ac, mae’n bur debyg, yn Brif Weinidog, yn mynd rhagddi eisoes.  Y ffefryn mawr yw Boris Johnson, sydd â chefnogaeth bron i drigain o Aelodau Seneddol wrth i mi ysgrifennu’r geiriau hyn.  Mae rhai o fy ffrindiau agos yn y byd gwleidyddol yn ei gefnogi ond mae gen i fy amheuon.  Bod yn Brif Weinidog yw pinacl ein bywyd gwleidyddol.  Mae’n rôl sy’n gofyn am ddifrifoldeb pwrpas a pharodrwydd i ddeall y ffaith syml eich bod chi, fel Prif Weinidog, yn siarad ar ran y Deyrnas Unedig i gyd, nid dim ond rhan fechan ohoni.

Pan enillodd Boris yr ymgyrch i fod yn Faer Llundain, ac wedyn dal gafael ar y teitl hwnnw, roedd yn wleidydd unigryw, does dim dwywaith.  Ef oedd y gwleidydd Ceidwadol oedd yn gallu cyrraedd rhai o etholwyr Prydain na allai’r Ceidwadwyr eraill eu cyrraedd.  Roedd hynny’n wir am gyfnod, ond dydw i ddim yn siŵr a yw’n parhau’n wir.  Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae wedi dewis bod yn ffigwr sy’n gwahanu carfannau, a thrwy ei ddewis ei hun, mae wedi penderfynu bod yn arweinydd ar garfan yn hytrach na chefnogi creu consensws.  Mae ei erthyglau papur newydd wedi cyffwrdd â hiliaeth gudd ac mae ei bolau mewn rhannau o’r Deyrnas Unedig yn awgrymu y byddai’n gefnogwr i’r rhai sy’n dymuno rhannu’r Deyrnas Unedig yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.  

 

Ar Brexit mae wedi pendilio’n ddychrynllyd.  Cymeradwyodd y bil ar gyfer gadael yr UE a gyflwynwyd gan y Prif Weinidog ond wedyn aeth ati i ddadlau yn ei erbyn.  Wedyn treuliodd chwe mis yn sarhau’r cytundeb o’r llinell ochr a phleidleisiodd yn ei erbyn ddwywaith.  Wedyn, yn nodedig, newidiodd ei feddwl (heb unrhyw eglurhad) a phleidleisiodd o blaid y cytundeb a drefnwyd gan Theresa May.  Mae yn ei erbyn unwaith eto bellach.  Maddeuwch i mi am beidio â chael fy narbwyllo ond mae’n well gen i ychydig mwy o asgwrn cefn a chryn dipyn yn llai o bendilio gan ddarpar Brif Weinidog.  Pwy a ŵyr, efallai y bydd yr hystings y bydd rhaid i'r holl ymgeiswyr gymryd rhan ynddynt yn datgelu Boris newydd, mwy ystyriol a chyfrifol, ond mae gen i fy amheuon.