UDA Diwrnod Annibyniaeth – 4 Gorffennaf 1776

Beth sy'n dod i'r meddwl pan fyddwch chi'n clywed yr enw Saesneg – Independence Day.  Beth am y ffilm o 1996, neu atgofion melys am noswaith boeth o haf yn Stadiwm Wembley yn 1985 yn gwrando ar Bruce Springsteen yn canu Independence Day?   Beth bynnag sy'n dod i'r meddwl, bydd 90% ohonom ni'n ei gysylltu ag Unol Daleithiau America a bydd delwedd o Faner America rywle yng nghefn ein meddwl.  Baner gyda  sêr yn cynrychioli  talaith yr UDA a 13 o resi yn cynrychioli'r trefedigaethau gwreiddiol.

Mae Diwrnod Annibyniaeth yn un o wyliau ffederal pwysicaf yr UDA.  Mae'n dathlu datganiad y 13 trefedigaeth Americanaidd wreiddiol yn 1776 nad oedden nhw mwyach "yn ddarostyngedig i nac o dan reolaeth" Brenin y Deyrnas Unedig yn 1776.

Dydy'r term "America Brydeinig ac India'r Gorllewin Brydeinig" ddim yn cael ei glywed yn aml erbyn hyn ond mae'n derm a ddefnyddir i ddisgrifio trefedigaethau tramor y Trefedigaethau Seisnig a sefydlwyd yng Ngogledd America rhwng 1606 a 1670.  Sefydlwyd y trefedigaethau hyn gan unigolion a chwmnïau gyda'r bwriad o elwa'n fasnachol.  Cawsant siartrau masnachol gan Iago I, Siarl I, y Senedd a Siarl II.

Sefydlwyd trefedigaethau yn Jamestown, Virginia yn 1607, ymgartrefodd y Tadau Pererin a ddaeth o Loegr ar y Mayflower enwog yn Lloegr Newydd yn 1620, ac yn 1634 sefydlwyd trefedigaeth yn Maryland.

Felly, erbyn chwarter olaf y 18fed ganrif roedd y trefedigaethau wedi'u sefydlu ac roedd dinasyddion y trefedigaethau hyn yn ystyried Siôr II yn Frenin arnynt ac yn ystyried eu hunain yn Brydeinwyr.  Ond, roedd yno nifer o gyfyngiadau masnachu ac roedd y gwladychwyr yn dibynnu bron yn llwyr ar Brydain am nwyddau.

Roedd gan Brydain Fawr ddyledion sylweddol o ganlyniad i ryfeloedd gyda Ffrainc a'r Indiaid. Er mwyn lleihau'r dyledion hyn dyma nhw'n dechrau trethu'r gwladychwyr mewn modd a achosodd anfodlonrwydd yn y trefedigaethau gan fod y deddfau trethu hyn yn cael eu pasio yn y Deyrnas Unedig yn hytrach nac yn America.  Roedd y gwladychwyr o'r farn fod y trethi hyn yn mynd yn groes i'w hawliau fel Dinasyddion Prydeinig.

Doedden nhw ddim yn hapus ac fe ddechreuon nhw foicotio, neu beidio â phrynu, nwyddau o Brydain. Yn 1773 yn Boston, Massachusetts dangosodd rhai o'r gwladychwyr eu rhwystredigaeth trwy wisgo fel Indiaid, sleifio ar longau yn yr harbwr, a thaflu te oedd wedi'i fewnforio i mewn i'r dŵr. Galwyd y digwyddiad hwn yn De Parti Boston. Caeodd y Prydeinwyr borthladd Boston. Digwyddodd te parti tebyg ond llai yn Yorktown, Virginia yn 1774.

Mae slogan enwog iawn yn gysylltiedig â'r digwyddiadau hyn – Dim Trethiant heb Gynrychiolaeth.

Y Deddfau amhoblogaidd hyn, ynghyd ag annhegwch ymddangosiadol y trethi ac ymateb y Prydeinwyr, a arweiniodd i bob pwrpas at Ryfel Annibyniaeth America.  Dechreuodd y rhyfel yn 1775 ac yn 1776 daeth gwledydd Ewropeaidd eraill yn rhan ohoni.

Y Datganiad Annibyniaeth oedd y cam cyntaf yn y broses o greu'r wladwriaeth fodern rydym ni'n ei hadnabod fel Unol Daleithiau America.

Effaith bwysicaf y Datganiad oedd caniatáu i lywodraethau cyfeillgar eraill gydnabod bodolaeth yr Unol Daleithiau. Cyfeiriodd Swltan Moroco at longau Americanaidd mewn dogfen gonsylaidd yn 1777, ond roedd yn rhaid i'r Gyngres aros am y Cytundeb Cynghreirio â Ffrainc yn 1778 i annibyniaeth yr UDA gael ei chydnabod yn ffurfiol. Gwnaeth yr Iseldiroedd gydnabod annibyniaeth yr UDA yn 1782. Er bod Sbaen wedi ymuno â'r rhyfel yn erbyn Prydain Fawr yn 1779, ni wnaeth gydnabod annibyniaeth yr UDA hyd 1783 – Cytundeb Paris.  Daeth y cytundeb â Rhyfel y Chwyldro Americanaidd i ben a bu i Brydain Fawr gydnabod yn swyddogol fod America yn wladwriaeth annibynnol.

Felly, ar Ddiwrnod Annibyniaeth bydd gorymdeithiau, cyngherddau, tân gwyllt a digwyddiadau ledled yr UDA i ddathlu eu "hannibyniaeth" – genedigaeth eu gwlad.  Mae hwn yn gyfnod diddorol iawn mewn hanes ac os hoffech chi ddarllen mwy, mae llawer mwy o wybodaeth ar gael ar y we ac mae nifer o lyfrau gwych ar gael hefyd.