North Wales Weekly News w/c 4ydd Mawrth 2019

 

Mae Llywodraeth Leol yn y newyddion yn ddiweddar oherwydd bod ein hawdurdodau lleol yng Ngogledd Cymru yn codi trethi sy’n ceisio delio â chwyddiant.  Ers sawl blwyddyn bellach, rydym wedi gweld y Dreth Gyngor yn cynyddu o tua 5% y flwyddyn, ond yma yng Nghonwy eleni, rydym wedi gweld cynnydd o 9%.  Mae’r penderfyniadau hyn yn rhai hynod o anodd a heriol i bawb, ac sydd wedi golygu bod y Dreth Gyngor wedi newid o fod yn fil misol y mae pobl yn ei dderbyn, er nad ydynt yn hoff ohono, i fod yn fil drytaf y mis i sawl un.  Dim ond gwaethygu wnaiff hyn.

 

Bydd rhai pobl yn cael eu temtio i wneud sylwadau gwleidyddol, ac a dweud y gwir, pam lai?  Mynegais fy siomedigaeth bod y dreth gyngor yn cynyddu 5% o un flwyddyn i'r llall, ac felly byddaf yn gwneud yr un fath y tro hwn am y cynnydd arfaethedig o 9%.  Fodd bynnag, camddealltwriaeth fyddai rhoi bai ar ‘galedi’ neu ar ‘fformiwla ariannu Llywodraeth Cymru’.  A bod yn onest, y llywodraeth leol sydd wedi dioddef o ‘galedi’ Llywodraeth y DU dros yr wyth neu naw mlynedd diwethaf, ac eto, mae gwariant cyffredinol Llywodraeth y DU wedi cynyddu o un flwyddyn i’r llall.  Bydd y cynnydd hwnnw yng ngwariant y Llywodraeth yn cyflymu o ganlyniad i’r cynnydd mewn costau pensiwn, a'n hymrwymiad fel Llywodraeth i drawsnewid ein gwasanaeth iechyd gyda £20 biliwn o arian ychwanegol.  Mae yna ganlyniadau i’r penderfyniadau hyn sy’n cael eu gwneud yn San Steffan. 

 

Mae’r un peth yn wir yng Nghymru.  Y GIG sy’n derbyn y rhan fwyaf o’r arian sy’n cael ei wario yng Nghymru, ac mae'r fformiwla ariannu sy’n cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru yn gweithio yn erbyn awdurdodau lleol mawr sydd ag ardaloedd sy’n brin eu poblogaeth, a demograffig poblogaeth hŷn yn bennaf.  Eto, mae’r penderfyniadau hyn yn cael eu gwneud gan Lywodraeth Cymru yng Nghaerdydd.  Felly, dylem ni dderbyn bod penderfyniadau sydd wedi cael eu gwneud yng Nghaerdydd ac yn San Steffan wedi gwneud pethau’n anodd i awdurdodau lleol.  Mae'n ddealladwy bod y Dreth Gyngor wedi dod yn fater dadleuol ym myd gwleidyddiaeth, oherwydd pwy yn y byd sydd eisiau talu mwy o dreth?

 

Fodd bynnag, er bod rhaid i’r 59 o gynghorwyr lleol wneud eu dewisiadau eu hunain, mae'r heriau sy'n wynebu Conwy yn amlwg wrth edrych ar y cynnydd sydd i'w weld mewn pryder gwirioneddol ynghylch y cyllid sydd ar gael i ysgolion, ac am y cynnydd didrugaredd yn yr arian sy’n cael ei wario ar ofal.  Gellir deall pam fod rhieni, athrawon a disgyblion yn protestio yn erbyn y sefyllfa ariannol heriol sy’n wynebu ysgolion. Rhaid mynd i'r afael â hyn. Ond, yn ystod yr un wythnos, derbyniais sawl cwyn ynghylch cynnydd ‘na ellir ei gyfiawnhau’ yn y Dreth Gyngor.  Yn yr un ffordd, mae fy swyddfa yn aml yn delio ag achosion lle mae costau gofal yn cael eu talu gan deuluoedd sy’n credu y dylai’r costau gael eu talu gan y Cyngor lleol.  Weithiau, byddwn yn ennill achos, a dro arall, byddwn yn ei cholli. Ond, mae’n profi fy mhwynt.  Mae pob un ohonom eisiau gwasanaethau gwych, ond pwy ddylai dalu amdanynt?

 

Credaf fod angen i ni gymryd cam yn ôl oddi wrth ein gwylltineb tuag at y dreth gyngor a’n gwasanaethau lleol.  Fel gwlad, rydym yn parhau i fyw y tu hwnt i’n modd.  Mae’r wlad yn gwario mwy o arian nag y mae’n ei derbyn mewn trethi, ac yn aml, mae toriadau i wariant San Steffan neu Gaerdydd yn golygu cynnydd yn y dreth gyngor, a phraesept yr heddlu i bobl leol.  Mae’n hen bryd i ni ofyn cwestiynau angenrheidiol am y model sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer ariannu’r llywodraeth leol, a hefyd am ein blaenoriaethau fel gwlad.  Mae pwyntio bys yn hawdd ac yn rhagweladwy. Yn lle gwneud hynny, fe ddylem geisio delio â’r materion go-iawn sy’n ein hwynebu.