North Wales Weekly News – Mai 15

Croesfan Glan y Môr

Roedd yr wythnos hon yn un fer i mi yn San Steffan gan deithio i Lundain ddydd Llun ac yna’n ôl i Ogledd Cymru nos Fawrth. Er ei bod yn dawel yn San Steffan yn ddiweddar, dim un bleidlais ers toriad y Pasg, y rheswm am fy wythnos fer yn San Steffan oedd am fy mod wedi cael caniatâd gan swyddfa chwipiaid y Llywodraeth i fod yn bresennol mewn ymchwiliad cyhoeddus yn yr etholaeth.

Mae’r ymchwiliad cyhoeddus dan sylw’n edrych ar gau croesfan Glan y Môr yn Neganwy a bydd yn ystyried a oedd y camau a gymerwyd gan Network Rail yn briodol ac wedi’u cymryd mewn modd a oedd y parchu hawliau’r preswylwyr. Rwyf o’r farn bod digon o dystiolaeth i awgrymu bod cwestiynau y mae angen i Network Rail eu hateb ond nad ydynt, hyd yma, wedi cynnig ateb iddynt.

Bydd yn rhaid aros i weld a fydd y gwaith a wnaethpwyd gan fy swyddfa gyda chefnogaeth wych gan ein Haelod Cynulliad a chynghorwyr lleol o bob plaid yn ennill y dydd, ond nod oes amheuaeth bod dadl gref wedi’u chyflwyno dros gyfnod o chwe blynedd sydd yn ddi-os yn cyfiawnhau’r ymchwiliad. Y rheswm pam yr wyf mor hyderus wrth ddweud hyn yw oherwydd y gefnogaeth ac, yn bwysicach, y dystiolaeth a gyflwynwyd gan bobl leol i gefnogi’r ddadl bod Network Rail wedi cymryd eu hawl i ddefnyddio’r groesfan oddi arnynt wedi bod mor argyhoeddedig.

Yn syml, rydym yn credu bod y dystiolaeth a gasglwyd ac a gyflwynwyd yn cadarnhau bod gan y gymuned yn Neganwy, o dan y ‘gyfraith gyffredin’ ac o dan ‘reol 20 mlynedd’ adran 31 o Ddeddf Priffyrdd 1980 hawl i ddefnyddio’r groesfan a bod Network Rail wedi eu hamddifadu o hynny drwy gau’r groesfan heb ymgynghori â hwy. Rwyf yn gobeithio’n fawr y byddwn yn ennill yr achos ond beth bynnag fydd y canlyniad mi hoffwn ddiolch i’r gymuned, y gwirfoddolwyr a’r cynghorwyr lleol sydd wedi rhoi o’u hamser a’u hymdrechion i gyflwyno’r ddadl. Ar adeg pan yr ymddengys fod gwleidyddiaeth ag obsesiwn am un pwnc yn unig nid yw’n beth drwg ein bod ni yma yn Aberconwy yn gallu dangos bod y parodrwydd i gydweithio’n yn dal i fodoli.

 

Dysgwr y Flwyddyn a Gorsedd y Beirdd

Gyda’r Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst ar y gorwel roeddwn yn falch o weld bod dau o etholwyr Aberconwy ar y rhestr fer ar gyfer gwobr Dysgwr y Flwyddyn. Mae Gemma Owen o Faenan a Paul Huckstep o Benmachno wedi bod yn ymroddgar iawn ac maent wedi llwyddo i ddysgu’r iaith ac rwyf yn dymuno pob llwyddiant iddynt yn eu hymdrech i ennill y brif wobr a fydd yn cael ei chyhoeddi mewn seremoni ar lwyfan y Pafiliwn ar 7 Awst. Mae’n bwysig dros ben bod ymdrechion y rhai hynny sy’n mynd ati i ddysgu’r iaith yn cael eu cydnabod.

Yn olaf, mi hoffwn estyn fy llongyfarchion personol i etholwyr Aberconwy ac i unrhyw rai sydd â chysylltiad agos ag Aberconwy a fydd yn cael eu hurddo fel aelodau o Orsedd y Beirdd yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst.  Mae’r anrhydeddau hyn yn cydnabod gwasanaeth yr unigolyn i’w cymunedau ac i Gymru ac mi hoffwn longyfarch Pierino Algieri, Elin Angharad Davies, Gareth Evans, Buddug Jones, Glyn Roberts, Vivian Parry Williams a Grace Emily Jones.  Llongyfarchiadau mawr!