Newyddion o Rotari Llandudno

Pêl-droed, pêl-droed a moeswers

 

Mae’r stori ddeublyg hon yn dechrau gyda dyfyniad gan rywun a all fod wedi bodoli neu na all fod wedi bodoli, ac os ydoedd yn bodoli, ni ddywedodd hyn bron yn sicr beth bynnag, ond dyma hi ….

 

“Lle fyddai unrhyw un ohonom, os na fyddai rhywun wedi rhoi cyfle inni?”

 

Priodolir y geiriau hyn i’r Brenin Arthur, neu o leiaf fel y cafodd ei sgriptio yng nghyfres y BBC, Merlin.

 

… efallai eich bod yn meddwl fod hyn yn gysylltiad braidd yn denau, at ddwy araith ddiweddar a roddwyd gan aelodau’r Rotary.  Roedd y ddau siaradwr, drwy gyd-ddigwyddiad, wedi paratoi sgwrs ynglŷn â’u profiad gyda’r “gêm”.

 

Siaradodd Mike Clutton am gael ei orfodi bron iawn gan y banc yr oedd yn gweithio iddo ar y pryd i fod yn stiward arian bob dydd Sadwrn ar dir Crystal Palace.  Nid oedd y wobr o 2/6d (12.5p) yn wych, ond bu’n gymorth i Mike gael ychydig fwy ar gyfer ei deulu ifanc.

 

O’r gyfres hon o amgylchiadau nas ceisir, blodeuodd ail yrfa ochr yn ochr â hyn.  Wrth i yrfa Mike yn y banc symud ymlaen, felly hefyd y “Swydd Sadwrn” a barhaodd am y 33 mlynedd wedyn, gan ddod i ben yn unig pan wnaeth Mike adael Llundain er mwyn ymddeol yng Nghymru.  Yn yr amser hwnnw, roedd y 2/6d wedi dyrchafu Mike yn uwch stiward ac roedd yn ennill £65 bob wythnos – h.y. mwy na 500 gwaith cymaint â’r 2/6d gwreiddiol.

 

 

Siaradodd Alan Guinn amdano’i hun yn cael ei ddewis oherwydd ei dalent pan oedd yn 9 oed gan athro ac, fel Mike, cafodd ei orfodi bron – yn yr achos hwn i chwarae pêl-droed yn olynol ar gyfer y dosbarth, yr ysgol ac yna i’r gynghrair ysgolion yn Wembley.  Roedd Alan yn amlwg yn dangos talent ac aeth ymlaen i chwarae yn broffesiynol i Manchester City Reserves, Oldham Athletic a Rossendale United, cyn datblygu ei yrfa broffesiynol fel peiriannydd ym Maes Awyr Manceinion yn y pen draw.

 

 

Thema gyffredin y ddau siaradwr oedd eu bod mewn dyled fawr i’r bobl a oedd yn awr wedi marw ers tro byd, ond roedden nhw wedi sylwi ar rywbeth, ac yna wedi datblygu, gwthio yr un ifanc hyd yn oed i wneud y pethau nad oedden nhw eu hunain yn gwybod a oedd yn bosibl.

 

Mewn ffyrdd gwahanol, dyma stori pob un ohonom.  A wnaethom ni erioed oedi a diolch iddyn nhw pan yr oeddem yn parhau i allu gwneud hynny?  “Lle fyddai unrhyw un ohonom, oni bai am y ffaith fod rhywun wedi rhoi cyfle inni?”