Mae'r Pwyllgor Materion Cymreig yn lansio ymchwiliad i effaith a gwerth y nawdd a ddarparwyd i Gymru gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru fel rhan o’r Bargeinion Dinesig a’r Bargeinion Twf.

Mae'r Pwyllgor Materion Cymreig yn lansio ymchwiliad i effaith a gwerth y nawdd a ddarparwyd i Gymru gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru fel rhan o’r Bargeinion Dinesig a’r Bargeinion Twf. Bydd yn asesu sut y gellir defnyddio’r hyn a ddysgwyd yn eu sgil i lunio cynigion ar gyfer bargeinion o’r fath a fydd yn hybu twf economaidd trwy Gymru gyfan.  

Cefnogi twf economaidd trwy Gymru gyfan

Heddiw mae'r Pwyllgor Materion Cymreig yn lansio ymchwiliad i effeithiolrwydd y Bargeinion Dinesig a Bargeinion Twf yng Nghymru ar hyn o bryd, a'r posiblrwydd o gael nawdd tebyg i Ganolbarth Cymru. Bwriad y Pwyllgor yw edrych ar strwythur a lefel cyllid y bargeinion ar hyn o bryd, a hefyd archwilio cynigion ar gyfer nawdd pellach i gefnogi twf economaidd trwy Gymru gyfan. Byddai cymeradwyo pob Bargen Ddinesig a Bargen Dwf arfaethedig yn golygu bod pob etholaeth yng Nghymru yn cael ei chynrychioli.

Sylwadau'r Cadeirydd

Wrth lansio'r ymchwiliad, dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor, David T.C. Davies:

"Gyda'r Bargeinion Dinesig ar gyfer Caerdydd ac Abertawe yn y De, a'r potensial ar gyfer Bargeinion Twf yn Nghanolbarth a Gogledd Cymru, mae'n bosib y bydd cytundebau sy'n annog twf economaidd yn weithredol dros Gymru gyfan. Byddai hyn yn ddatblygiad cadarnhaol a'r gobaith yw y byddwn yn gweld ymrwymiad cryf gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ar gyfer Bargeinion Twf Canolbarth a Gogledd Cymru.

Bydd ymchwiliad fy Mhwyllgor yn craffu ar sut mae'r Bargeinion Dinesig yn gweithredu ar hyn o bryd, gan edrych ar yr effaith economaidd yn eu sgil, ac yn ystyried beth allwn ni ei ddysgu oddi wrthynt er mwyn cryfhau'r cynigion ar gyfer bargeinion twf i Ganolbarth a Gogledd Cymru."

Bargeinion Twf

Yn ystod cyhoeddi Cyllideb yr Hydref 2018, neilltuodd Canghellor y Trysorlys £120 miliwn o gyfalaf ar gyfer Bargen Twf Gogledd Cymru, a chytunodd Llywodraeth Cymru i gyfrannu’r un swm. Serch hynny, nid yw'r cynllun wedi ei weithredu hyd yn hyn. Cafodd lefel y cyllid a neilltuwyd gan Lywodraeth y DU ei feirniadu am ei fod £50 miliwn yn llai na'r cynnig gwreiddiol. Gofynnodd Llywodraeth Cymru i Lywodraeth y DU roi rhagor o gefnogaeth i’r ardal. Bydd ymchwiliad y Pwyllgor yn edrych ar effeithiolrwydd y fargen dwf o ran creu swyddi newydd ac annog buddsoddiad ychwanegol yn yr ardal.

Ers cyhoeddi Bargen Twf Gogledd Cymru, gwelwyd rhagor o gefnogaeth o blaid rhoi Bargen Dwf gwerth £200 miliwn i Ganolbarth Cymru er mwyn hybu twf economaidd yn yr ardal. Mae disgwyl i'r cytundeb gael ei gynnig cyn cyhoeddi Cyllideb yr Hydref.

Bargeinion Dinesig

Mae nifer o ardaloedd yng Nghymru eisoes wedi derbyn Bargeinion Dinesig er mwyn hybu twf economaidd. Cyhoeddodd Llywodraeth y DU Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ar 15 Fawrth 2016, a oedd yn cynnwys £1.2 biliwn o gyllid mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru a deg awdurdod lleol. Yna cyhoeddwyd Bargen Ddinesig Bae Abertawe gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ym Mehefin 2017, gydag amcangyfrif o bron £1.3 biliwn ar ei chyfer. Bydd ymchwiliad y Pwyllgor yn edrych ar effaith y bargeinion hyn ac yn ystyried y modd y cânt eu gweithredu wrth fynd ati i ddatblygu bargeinion pellach i Gymru yn y dyfodol.

Cylch gorchwyl

Mae'r Pwyllgor yn gwahodd tystiolaeth ysgrifenedig sy’n ymwneud â'r materion canlynol:

  • Sut mae Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn gweithredu ar hyn o bryd;
  • Pa mor llwyddiannus oedd Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a pha welliannau a welwyd yn economi Prifddinas-Ranbarth Caerdydd o ganlyniad;
  • Sut mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe wedi gwella'r economi leol;
  • Pa newidiadau a fydd yn llywodraethiant Bargen Ddinesig Bae Abertawe  yn sgil yr adolygiad annibynnol;
  • Pa wersi y gellir eu dysgu gan y Bargeinion Dinesig wrth lunio cynigion ar gyfer bargeinion twf yng Nghanolbarth a Gogledd Cymru;
  • Sut y byddai'r Fargen Twf arfaethedig ar gyfer Gogledd Cymru yn effeithio ar economi'r ardal, pa sectorau fyddai'n elwa, a beth fyddai ansawdd y swyddi sy’n cael eu creu;
  • Ydy'r nawdd gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn ddigonol i gefnogi Bargen Twf Gogledd Cymru neu beidio;;
  • Beth ddylai unrhyw Fargen Twf ar gyfer Canolbarth Cymru ei gynnwys ac ar ba sectorau y dylai ganolbwyntio;
  • Pa gefnogaeth a strwythurau sydd angen eu sefydlu er mwyn sicrhau y byddai cynnig ar gyfer Bargen Twf i Ganolbarth Cymru yn llwyddiannus.

 

Gwybodaeth bellach