Mae hi’n 75 mlynedd eleni ers Glaniadau D-Day.

Ar 6ed Mehefin 1944, cychwynnodd Ymgyrch Overlord.  Enw’r ymgyrch filwrol hon a gynhaliwyd ar y cyd gan y Cynghreiriaid, o dan arweiniad y Cadfridog enwog o America, Dwight Eisenhower, yw Glaniadau D-Day neu Laniadau Normandi. Dyma oedd yr ymosodiad mwyaf o’r tir a’r môr mewn hanes.

 Ar 6ed Mehefin cafodd awyrfilwyr eu gollwng yng Ngogledd Ffrainc - glaniodd tua 18,000 ohonyn nhw a thirfilwyr ar hyd pum traeth yn Normandi.  Ffugenwau’r traethau oedd Utah, Omaha, Gold, Juno a Sword.  Neptune oedd enw’r ymgyrch ar y môr i’w cefnogi, ac roedd yn cynnwys dros 700 o longau bach a mawr.  Roedd yr ymgyrch awyr yn cynnwys 11,000 o awyrennau, a glaniodd dros 156,000 o dirfilwyr yn Ffrainc.

Llwyddodd D-Day i sefydlu ail ffrynt yn Ewrop, a arweiniodd yn y pen draw at ryddhau Ewrop yn 1945, ond dyma oedd man cychwyn ymgyrch hir a gafodd ei gwrthwynebu’n ffyrnig gan yr Almaenwyr.

Ar D-Day ei hun, amcangyfrifwyd bod 4,000 o filwyr wedi colli eu bywydau neu wedi’u hanafu; cafodd 2,000 o filwyr America eu hanafu neu eu lladd ar Draeth Omaha.

Mae digonedd o wybodaeth am Laniadau D-Day ar gael ar y rhyngrwyd. Mae gwefan yr Amgueddfa Ryfel Ymerodrol yn lle da i gychwyn, sydd hefyd yn cynnwys llawer o wybodaeth a dolenni am yr holl ddigwyddiadau sy’n cael eu cynnal eleni i goffáu’r digwyddiad pwysig hwn.  <https://www.iwm.org.uk/visits/d-day75&gt;

Mae gennym ni gysylltiad cryf â Glaniadau D-Day yma yn Aberconwy - drwy’r rheini a fu’n gwasanaethu, yn ogystal â’r gwaith peirianneg a oedd yn rhan mor bwysig o’r ymgyrch.  O 1942 ymlaen, roedd hyd at 1,000 o ddynion ym Morfa Conwy yn ymwneud â’r gwaith o adeiladu “strwythurau cyfrinachol” a oedd yn rhan o brosiect gan y Swyddfa Gartref er mwyn gwneud D-Day yn bosib.  Hugh Iorys Hughes (1902-1977), peiriannydd o Fangor, oedd arweinydd y prosiect.  Byddai’r “strwythurau cyfrinachol” hyn yn ffurfio “Harbwr Mulberry” - harbwr arnofio dros dro a oedd yn golygu nad oedd rhaid cipio porthladd, gan ei fod yn cynnig lle i lanio cerbydau, offer a chyflenwadau. 

“Mae Mulberry wedi rhagori ar ein gobeithion” meddai’r Cadfridog Eisenhower, a dywedodd y Cadfridog Bradley fod y prosiect yn “un o ymgyrchoedd logistaidd mwyaf dyfeisgar y rhyfel.”

Daeth Prif Farsial yr Awyrlu, Syr Arthur Tedder, dirprwy ffyddlon Eisenhower i’r casgliad, “y byddai goresgyniad Ewrop wedi gallu dibynnu’n llwyr ar ymarferoldeb yr harbwrs artiffisial hyn,” a chyfaddefodd Gweinidog Cynnyrch Rhyfel yr Almaen, Albert Speer, fod y Cynghreiriad wedi gwneud Wal yr Iwerydd y Natsïaid yn amherthnasol, gan eu bod wedi’i hosgoi “drwy ddefnyddio un ddyfais dechnegol wych”.

Mae maen coffa i’w weld ar lanfa Morfa Conwy.  Mae llawer mwy o wybodaeth ar gael ar y rhyngrwyd am Harbwrs Mulberry a’r gwaith o’u hadeiladu.

Yn Aberconwy bydd y Lleng Brydeinig Frenhinol ynghyd â’r Amgueddfa Home Front, Amgueddfa’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, Blind Veterans, Gwasanaeth Archifo Conwy a’r Gwarchodlu Cymreig yn cynnal digwyddiad i nodi Glaniadau D-Day yn Llandudno. Bydd cyn-filwyr a chludwyr baneri yn ymgynnull am 10.30am i gael gwasanaeth wrth y gofeb ryfel am 10.45. Bydd enwau’r pum milwr o Landudno a gollodd eu bywydau yn ystod Brwydr Normandi yn cael eu cyhoeddi, torchau yn cael eu gosod a’r Caniad Olaf yn cael ei seinio.  Am weddill y dydd, bydd y Partneriaid Cymunedol yn gosod arddangosfeydd a fydd yn adrodd hanes D-Day o safbwynt lleol a chenedlaethol.  Bydd yn sicr yn wasanaeth teimladwy iawn, ac yn ddiwrnod diddorol.