Guto’s North Wales Weekly News column - 28th November 2018 // Colofn Newyddion Wythnosol Guto ar gyfer Gogledd Cymru – 28 Tachwedd 2018

Another crazy few weeks in British politics.  So what has happened?  The Prime Minister brought back her 585 page Withdrawal Agreement which is a detailed and almost impossible to read document that outlines the nature of our divorce from the European Union.

It’s hardly surprising that such a contentious document would cause mayhem but despite many of the complaints against the agreement being correct I would be very reluctant to blame the Prime Minister.  Our relationship with the EU has been very complex over a period of 44 years.  In that context the PM achieved as good a deal as could have been expected.  There are problems though.  What of the integrity of the United Kingdom due to the backstop provision for Northern Ireland?  Is it a potential gift to the Scottish Nationalists since they can claim that the Single Market provision for Northern Ireland is good for Northern Ireland and bad for Scotland?  Is it bad for the idea of an independent UK trade policy since we will be part of the Customs Union with an EU veto on whether and when we can leave?  Clearly important questions.

However, I fail to see how launching a coup against the Prime Minister helped.  Would a new Prime Minister suddenly have a majority in Parliament?  Would the EU, after two and a half years of negotiations, give us a better deal?  Would a new Prime Minister be able to control the Conservative Party?  Would a new Prime Minister result in Jeremy Corbyn jumping off the Brexit fence where he has sat doing nothing for two years?  I don’t think so.  Only in the Westminster bubble could anybody have concluded that dumping a Prime Minister four months before leaving the EU was clever.

Next up is our new future partnership agreement with the EU.  Those of you bored by Brexit need to look away now.  The proposed future partnership document is 26 pages long and has no legal validity.  It’s full of good intentions but offers no certainty and no clarity.  If anybody tells you that we should vote for this deal in order to get Brexit done then they are lying.  This future agreement gives a 21 month respite before the next cliff-edge but potentially leaves us with years of negotiations and pain as we try and create a trade deal with the EU.  To put it in context - the future partnership document is 26 pages long.  The trade deal that was recently signed between Canada and the EU (after nine years of negotiations) was 1,600 pages long.  We face years of continued negotiations and I wonder whether it’s worth it for a future agreement which will be worse for our economy than the one we have now.

Finally, consider the comment of one young constituent who wrote to me.  The Brexit referendum was claimed to be about “taking back control”.  As she said to me, “if this deal is approved a German, French or Dutch teenager will see their ability to live, study and work reduce from 28 countries to 27.  For me and my friends our ability to live, study and work in other countries falls from 28 to 1.  How does that give us, young people, more control?”  It’s a fair question.

 

Mae’r wythnosau diwethaf wedi bod yn gyfnod gwallgof arall o ran gwleidyddiaeth Prydain. Felly, beth sydd wedi digwydd? Daeth y Prif Weinidog â’i Chytundeb Gadael 585 tudalen yn ôl gyda hi – sef dogfen fanwl bron yn amhosib ei darllen, sy’n amlinellu natur ein cytundeb ar gyfer gwahanu oddi wrth yr Undeb Ewropeaidd.

Nid yw’n syndod bod dogfen mor ddadleuol wedi achosi anhrefn, ond er bod nifer o’r cwynion yn erbyn y cytundeb yn gywir, fe fyddwn yn gyndyn o feio’r Prif Weinidog. Mae ein perthynas â’r UE wedi bod yn gymhleth ers 44 mlynedd. Yn y cyd-destun hwnnw, mae’r Prif Weinidog wedi sicrhau bargen gystal ag y gellid ei disgwyl. Ond beth am hygrededd y Deyrnas Unedig o ganlyniad i’r ddarpariaeth wrth gefn ar gyfer Gogledd Iwerddon? A yw’n anrheg i genedlaetholwyr yr Alban o bosibl – oherwydd eu bod yn gallu honni bod darpariaeth y Farchnad Sengl ar gyfer Gogledd Iwerddon yn beth da i Ogledd Iwerddon ac yn wael i’r Alban? A yw’r syniad o gael polisi masnach annibynnol yn y DU yn beth drwg gan y bydd yn rhan o Undeb Tollau lle mae gan yr UE bleidlais atal o ran p’un ai a ydym yn cael gadael neu beidio, a phryd? Mae’r rhain yn amlwg yn gwestiynau pwysig iawn.

Fodd bynnag, ni allaf weld sut fu dechrau gwrthryfel yn erbyn y Prif Weinidog o gymorth yn hynny o beth. A fyddai Prif Weinidog newydd yn cael mwyafrif yn y Senedd fwyaf sydyn? A fyddai’r UE, ar ôl dwy flynedd a hanner o drafodaethau, yn rhoi bargen well i ni? A fyddai’r Prif Weinidog newydd yn gallu rheoli’r Blaid Geidwadol? A fyddai Prif Weinidog Newydd yn achosi i Jeremy Corbyn neidio oddi ar y ffens y mae wedi eistedd arni yn gwneud dim byd mewn perthynas â Brexit am ddwy flynedd? Dydw i ddim yn meddwl. Dim ond yn swigen San Steffan allai rhywun fod wedi dod i’r casgliad bod cael gwared â’r Prif Weinidog bedwar mis cyn gadael yr UE yn glyfar.

Y peth nesaf yw ein cytundeb partneriaeth â’r UE ar gyfer y dyfodol. Dylai’r rheini ohonoch sydd wedi diflasu â Brexit roi’r gorau i ddarllen. Mae’r ddogfen bartneriaeth arfaethedig yn cynnwys 26 o dudalennau ac nid yw’n cynnwys unrhyw ddilysrwydd cyfreithiol. Mae’n llawn bwriadau da, ond nid yw’n cynnig unrhyw bendantrwydd nac eglurder. Os oes unrhyw un yn dweud wrthych chi bod rhaid i ni bleidleisio dros y fargen hon i sicrhau Brexit, maen nhw’n dweud celwydd. Mae’r cytundeb hwn ar gyfer y dyfodol yn rhoi 21 mis o seibiant i ni cyn cyrraedd ymyl y dibyn nesaf, ond mae’n golygu bod gennym ni flynyddoedd o drafodaethau a gofid o’n blaenau wrth i ni geisio llunio cytundeb masnach â’r UE. I roi hyn mewn cyd-destun – mae’r ddogfen bartneriaeth ar gyfer y dyfodol yn cynnwys 26 tudalen. Roedd y fargen fasnach a gafodd ei llofnodi’n ddiweddar rhwng Canada a’r UE (ar ôl naw mlynedd o drafodaethau) yn cynnwys 1,600 o dudalennau. Rydyn ni’n wynebu blynyddoedd o drafodaethau parhaus ac rydw i’n gofyn i mi fy hun, a yw’n werth y drafferth i gael cytundeb ar gyfer y dyfodol a fydd yn waeth i’n heconomi na’r un sydd gennym ni ar hyn o bryd?

Yn olaf, hoffwn i chi ystyried sylw un etholwraig ifanc a ysgrifennodd ataf. Roedd y refferendwm ar Brexit yn honni ei fod yn ymwneud ag “adennill rheolaeth”. Fe ddywedodd hi wrthyf i, “os caiff y fargen hon ei chymeradwyo, bydd y cyfleoedd i fyw, astudio a gweithio mewn gwlad arall yn gostwng o 28 gwlad i 27 i bobl ifanc yn eu harddegau yn yr Almaen, yn Ffrainc neu yn yr Iseldiroedd. I mi a fy ffrindiau, bydd nifer y gwledydd y gallwn ni fyw, astudio a gweithio ynddynt yn gostwng o 28 i 1. Sut mae hynny’n rhoi mwy o reolaeth i ni bobl ifanc?” Mae’n gwestiwn teg.