
Bydd y Pwyllgor Materion Cymreig yn holi economegwyr o Brifysgol Caeredin a Phrifysgol Sussex ynghyd ag arbenigwraig o'r Institute for Government am drafodaethau ynghylch masnach yng Nghymru yn y dyfodol.
Fel rhan o'r ymchwiliad i Brexit, masnach a thollau, mae'r Pwyllgor Materion Cymreig yn edrych ar oblygiadau posib Brexit ar gyfer dyfodol masnach yng Nghymru. Bu’r Pwyllgor yn ymweld â phorthladd Caergybi yn ddiweddar i weld sut mae awdurdodau'r porthladd yn paratoi ar gyfer Brexit.
Yn ystod y sesiwn, bydd y Pwyllgor yn holi barn ysgolheigion ac ymchwilwyr am effaith Brexit 'dim cytundeb' ar Gymru. Byddant hefyd yn ystyried rôl Llywodraeth a Chynulliad Cymru mewn trafodaethau yn y dyfodol o ran ffurfio, trafod a chymeradwyo cytundebau masnach. Bydd y Pwyllgor yn canolbwyntio ar yr anawsterau sy’n codi yn sgil y sefyllfa mai Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am gytundebau masnach rhyngwladol tra bod Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am ddatblygiad economaidd a gweithredu unrhyw newidiadau rheoleiddio sy’n deillio o gytundebau masnach newydd yng Nghymru. Mae'r tystion yn arbenigo mewn economeg, gwleidyddiaeth ryngwladol a pherthnasau rhynglywodraethol, ac felly mae’r Pwyllgor yn gobeithio y byddant yn medru cymharu sefyllfaoedd tebyg mewn cyd-destun rhyngwladol.
Mawrth 5 Chwefror
14.30
Ystafell Grimond
Tystion
- Dr Kristen Hopewell, Uwch Ddarlithydd mewn Economi Wleidyddol Ryngwladol, Prifysgol Caeredin
- Yr Athro Leonard Alan Winters, Athro mewn Economeg a Chyfarwyddwr UK Trade Policy Observatory, Prifysgol Sussex
- Maddy Thimont Jack, Ymchwilydd, Institute for Government
Gwybodaeth bellach
Gwyliwch y sesiwn dystiolaeth yma.
Am ragor o wybodaeth am y Pwyllgor, gallwch edrych ar y dudalen we neu ar Twitter @CommonsWelshAff
Ymholiadau'r wasg: Nina Foster, Uwch-swyddog y Cyfryngau a Chyfathrebu, 07917 488 791, fostern@parliament.uk